Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon Community Primary School

    Croeso i'n Gwefan ................................. Welcome to our Web Site

Tudalen Gartref

Cyflwyniad

Staff Prosbectws Gweithgareddau
Disgyblion Hanes Eisteddfod Newyddion Digwyddiadau Arbennig
Home Page Introduction Staff Prospectus Activities
Pupils History Eisteddfod(Eng) News Special Events

 

Cafodd yr ysgol ei harolygu ar ddiwedd tymor yr haf, 2004. Dyma rai o sylwadau'r arolygwyr.

Prif Ganfyddiadau'r Adroddiad

􀂃 Mae’r ysgol hon yn darparu cymuned ac amgylchedd diogel a threfnus i’r disgyblion.

􀂃 Yn ystod yr arolygiad, roedd safonau cyflawniad y disgyblion yn dda iawn mewn 14% o’r gwersi a arsyllwyd, yn dda mewn 41% ac yn foddhaol mewn 45% ohonynt. Ni welwyd safonau cyflawniad anfoddhaol mewn unrhyw wers yn ystod yr arolygiad.

􀂃 Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd cyson i ddisgyblion ymwneud â’r medrau allweddol ar draws y cwricwlwm. Manteisiant yn dda ar brofiadau mewn hanes, celf ac addysg grefyddol, er enghraifft, i gywain gwybodaeth am unigolion mewn llyfrau ac oddi ar y We, ac i gymhwyso’r wybodaeth honno. Nodwedd benodol o’r profiadau hyn yw’r modd y maent yn ymchwilio am wybodaeth trwy gyfrwng y Saesneg ac yn defnyddio’r wybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Cânt brofiadau niferus a buddiol, yn benodol yn CA2, i ddatblygu medrau rhifedd yn dda iawn wrth drin a thrafod data mewn mathemateg, gwyddoniaeth a daearyddiaeth. Datblygant eu medrau TGC yn dda yn gyson wrth ymateb i dasgau perthnasol mewn mathemateg, gwyddoniaeth a hanes.

􀂃 Roedd ansawdd yr addysgu yn dda iawn neu’n dda mewn 64% o’r gwersi a arsyllwyd, ac yn foddhaol mewn 31% ohonynt.

􀂃 Arweinir yr ysgol gan bennaeth brwdfrydig sydd â gweledigaeth bendant ac sy’n cael ei chynorthwyo’n effeithiol gan gorff llywodraethu ymroddedig. Rheolir y cyllid ganddynt mewn modd effeithlon.

􀂃 Mae’r disgyblion yn ymateb yn gwrtais ac yn ymddwyn yn dda; maent yn cydweithio’n dda â’i gilydd, oddi mewn ac oddi allan i’r dosbarth. Mae’r gweithgareddau sydd ynghlwm â’r Cyngor Ysgol yn cyfrannu’n dda at eu datblygiad personol a chymdeithasol. Cyfrannant at achosion da pan roddir cyfle iddynt ac maent yn ymwneud yn selog â gweithgareddau’r gymuned leol. Ymatebant yn dda i weithdrefnau’r ysgol ynglŷn â chydraddoldeb hiliol.

􀂃 Mae datblygiad ysbrydol y disgyblion yn foddhaol. Ar brydiau, ni lwyddir i greu naws digon addolgar yn y cyd-addoliadau.

􀂃 Mae’r rhieni yn gefnogol i’r ysgol, yn barod iawn i ymwneud â’i gweithgareddau ac i roi

cymorth pan ofynnir iddynt. Mae partneriaeth yr ysgol gyda’r gymuned, ysgolion eraill a sefydliadau perthnasol yn dda iawn ac yn hyrwyddo datblygiad a safonau cyflawniad y disgyblion.

􀂃 Mae partneriaeth yr ysgol gyda diwydiant yn dda, a chaiff y disgyblion brofiadau sy’n dyfnhau eu hymwybyddiaeth o fyd busnes a gwaith.

􀂃 Darperir cwricwlwm addas a chytbwys i’r disgyblion drwy CA1 a CA2 ac fe’i cyflwynir drwy gyfres o themâu. Cyfoethogir y cwricwlwm gan amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys chwaraeon rhyng-ysgol. Cyfranna’r gwaith cartref a osodir ymhellach at safonau cyflawniad y disgyblion.

􀂃 Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag AAA yn dda; mae elfen gref o wahaniaethu tasgau yn nodweddu’r ddarpariaeth yn CA2. Darperir cefnogaeth effeithiol i grwpiau bychan neu unigolion yn rheolaidd.

􀂃 Gwnaeth yr ysgol gynnydd da mewn perthynas â’r materion allweddol a nodwyd yn yr arolygiad blaenorol. Lluniwyd cynllun gweithredu manwl ac fe lwyddwyd i ymateb yn effeithiol i’r pum mater allweddol. Yn benodol, llwyddwyd i godi safonau nifer dda o bynciau a lluniwyd cynlluniau gwaith effeithiol yn y meysydd cwricwlaidd.

 

Y SAFONAU ADDYSGOL A GYFLAWNIR GAN DDISGYBLION

Y safonau a gyflawnir yn y pynciau a’r meysydd dysgu

Roedd safonau cyflawniad y disgyblion ar draws yr ysgol yn foddhaol neu’n well yn yr oll o’r gwersi a arsyllwyd, gan gynnwys 14% lle’r oedd safonau cyflawniad yn dda iawn, a 41% lle’r oedd safonau yn dda. Ni welwyd gwersi lle’r oedd safonau cyflawniad yn anfoddhaol.

􀂃 Mae safonau cyflawniad yn dda iawn yn CA2 mewn gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg ac addysg grefyddol.

􀂃 Yn y ddau gyfnod allweddol, mae safonau yn dda mewn mathemateg, hanes a daearyddiaeth ac, yn CA2, mae safonau’n dda, hefyd, mewn ysgrifennu Cymraeg, mewn Saesneg, TG ac mewn cerddoriaeth.

􀂃 Yn CA1, mae safonau’n dda mewn addysg grefyddol, tra mae safonau yn foddhaol mewn llafaredd, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg, TG, celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol.

􀂃 Yn CA2, mae safonau llafaredd a darllen Cymraeg a safonau addysg gorfforol yn foddhaol.

􀂃 Mae disgyblion sydd ag AAA yn gwneud cynnydd da ar y cyfan.

Safonau yn y Medrau Allweddol

Mae safonau yn y medrau allweddol ar draws y cwricwlwm yn dda. Trwy ymwybyddiaeth dda o’r medrau allweddol yn y gwaith cynllunio, mae disgyblion yn manteisio ar gyfleoedd cyson i feithrin eu medrau allweddol ar draws y cwricwlwm.

 

ETHOS YR YSGOL

Datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion

Mae datblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda ac mae eu datblygiad ysbrydol yn foddhaol.

􀂃 Mae’r staff yn adnabod y disgyblion yn dda iawn ac mae perthynas dda rhwng y disgyblion â’i gilydd, a chyda’u hathrawon ac oedolion eraill.

Ymddygiad ac ymagweddau

Mae ymddygiad ac ymagweddau’r disgyblion yn dda iawn.

Presenoldeb

Mae lefelau presenoldeb y disgyblion yn dda.

 

ANSAWDD YR ADDYSG

Ansawdd yr addysgu

􀂃 Arsyllwyd 22 o wersi yn ystod yr arolygiad. Roedd ansawdd yr addysgu yn dda neu’n dda iawn mewn 64% ohonynt ac yn foddhaol mewn 31%.

Asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau

Mae’r trefniadau ar gyfer asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau yn dda ac yn cydymffurfio â gofynion statudol y CC.

Y cwricwlwm

Mae cwricwlwm yr ysgol yn eang a chytbwys ac o ansawdd da.

Cymorth, cyfarwyddyd a lles disgyblion

Mae ansawdd y cymorth, cyfarwyddyd a lles a gynigir i ddisgyblion yn dda iawn.

Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig [AAA]

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA yn dda.

Partneriaeth gyda rhieni a’r gymuned, ysgolion a sefydliadau eraill

Mae’r bartneriaeth gyda’r rhieni a’r gymuned, ysgolion a sefydliadau eraill yn dda iawn.

Partneriaethau gyda diwydiant

Mae’r bartneriaeth gyda diwydiant yn dda.

 

RHEOLAETH

Ansawdd hunan-arfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant

Mae ansawdd yr hunan-arfarnu ar gyfer gwelliant yn foddhaol.

Arweinyddiaeth ac effeithlonrwydd

􀂃Mae ansawdd arweinyddiaeth ac effeithlonrwydd yr ysgol yn dda.

􀂃 Mae’r pennaeth yn cynnig arweinyddiaeth dda sy’n gosod cyfeiriad clir i waith yr ysgol.

Staffio, adeiladau ac ystafelloedd ac adnoddau dysgu

Yn gyffredinol, mae staffio, adeiladau ac ystafelloedd ac adnoddau dysgu yn dda iawn.

 

Am ragor o wybodaeth am yr arolygiad ar Ysgol Llannon neu unrhyw ysgol arall, defnyddiwch y cysylltiad canlynol :

Estyn