Croeso i Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon.

Mae'r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad byr am yr ysgol.

Tudalen Gartref

Staff Prosbectws Arolwg Gweithgareddau
Disgyblion Hanes Eisteddfod Newyddion Digwyddiadau Arbennig
Home Page Staff Prospectus Inspection Activities
Pupils History Eisteddfod(Eng) News Special Events

 

Ysgol bentref yw Ysgol Llannon.  Mae'r ysgol wedi ei hadeiladu ar ochr bryn ynghanol y pentref  ac o'r ysgol ceir golygfeydd bendigedig o'r pentref a Bae Ceredigion. Am ragor o wybodaeth am y pentref pwyswch ar y cysylltiad i'r wefan  http://www.llanon.org.uk

 

 

Ysgol cynllun agored yw hi gyda dosbarthiadau eang, llyfrgell gynhwysfawr a neuadd aml-bwrpas. Ar hyn o bryd mae 29 disgybl yn mynychu'r ysgol, gan atgyfnerthu'r awyrgylch deuluol.

 

 

Adeiladwyd yr ysgol wreiddiol yn 1878 ac yna'n 1974  adeiladwyd ysgol newydd sbon ar yr un safle. Mae'r ysgol yn fodern ac yn lliwgar gyda digonedd o adnoddau er cefnogi addysg y plant.

 

 

Nôd yr ysgol yw darparu addysg sy'n eang, cytbwys a pherthnasol i anghenion pob unigolyn mewn awyrgylch hapus a chartrefol.

 

 

Mae gan yr ysgol Gymdeithas Rhieni Athrawon a Ffrindiau'r Ysgol weithgar iawn sy'n cefnogi holl weithgareddau'r ysgol, codi arian ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol.

 

 

Trefnir llu o weithgareddau all-gyrsiol ac mae clybiau ar ôl ysgol yn cwrdd bob wythnos. Rydym yn y broses o sefydlu Clwb Gofal Plant. Bwriadwn gychwyn Clwb Hwyl y Plant ym mis Ionawr, 2010.

 

 

Sefydlwyd Cyngor yr Ysgol yn ystod 2004. Mae'r ysgol yn rhan o gynllun Ysgolion Iach ac Eco-Ysgolion. Rydym yn hyrwyddo Masnachu Teg.