Eisteddfod Gwyl Ddewi

Tudalen Gartref

Cyflwyniad

Staff Prosbectws Arolwg
Gweithgareddau Disgyblion Hanes Newyddion Digwyddiadau Arbennig
Home Page Introduction Staff Prospectus Inspection
Activities Pupils History News Special Events

   

Cynhelir Eisteddfod Gwyl Ddewi yn yr ysgol gyda gwahoddiad agored i aelodau'r gymuned i ddod i fwynhau gweithgareddau'r dydd. Mae'r pwyslais ar fwyniant a dathlu llwyddiannau'r plant - gyda phob plentyn fel arfer yn cystadlu. Cyn y diwrnod, mae'r plant yn brysur iawn yn paratoi eu cystadleuthau ysgrifenedig a gwaith Celf. Ar y dydd, caiff pawb gyfleon i gystadlu fel aelodau o grwpiau ac yn unigol.

Cystadla'r tri thŷ, sef Cledan, Peris ac Ysig yn frŵd gydol yr eisteddfod. Erbyn diwedd y dydd, mae yna gryn ddisgwyl er mwyn cael gwybod pwy yw enillwyr Cwpan Dolgoed - am ennill y nifer uchaf o bwyntiau unigol, Cadair Cadwgan - am y gwaith ysgrifenedig gorau a Tharian Argoed - i'r tŷ buddugol.

Cynhaliwyd eisteddfod 2009 ar ddydd Mercher, Mawrth 18fed, 2009. Mwynheuodd y gynulleidfa ddiwrnod bendigedig gan weld yr holl blant yn canu ac yn adrodd yn unigol, amryw ddisgyblion yn cystadlu ar y piano, clarinet a'r recorder a dawnswyr disgo.

Cyflwynwyd Cadair Cadwgan i Gethin, enillydd y gystadleuaeth ysgrifennu. Llongyfarchiadau iddo.
Owen oedd enillydd Cwpan Dolgoed am gasglu'r nifer uchaf o bwyntiau i'w dŷ.

 Mr. a Mrs. Jeff a Rhiannon Lewis oedd beirniaid yr eisteddfod eleni. Fe gawson nhw ddiwrnod prysur iawn yn beirniadu'r amrywiol gystadleuthau. Dyma nhw gyda'r ddau ddisgybl hynaf, Gethin a Megan.
Cledan oedd y tŷ buddugol eleni. Dyma gapteniaid Cledan, Gethin ac Ashley, gyda tharian Argoed.

Dyma ganlyniadau  2008:

Cyflwynwyd Cadair Cadwgan i Jamie, enillydd y gystadleuaeth ysgrifennu Dyddiadur Cymraeg a'r gystadleuaeth ysgrifennu llythyr Saesneg. Llongyfarchiadau iddo.
Jamie oedd enillydd Cwpan Dolgoed am gasglu'r nifer uchaf o bwyntiau i'w dŷ.

Gweithiodd ein beirniaid Mr. Trevor Pugh a Mrs. Beti Emmanuel yn ddiwyd drwy'r dydd. Dyma nhw gyda'r ddau ddisgybl ieuengaf, Ethan a Holly.
Cledan oedd y tŷ buddugol eleni. Cyflwynodd Miss Morgan darian Argoed i gapteniaid Cledan, sef Katie a Jamie.

Dyma ganlyniadau  2007:

Bethan enillodd Gwpan  Dolgoed am gasglu'r nifer uchaf o bwyntiau unigol.

Bethan oedd enillydd Cadair Cadwgan am y darn gorau o waith ysgrifenedig hefyd.
Ysig oedd yn fuddugol ar ddiwedd y prynhawn a chyflwynwyd Tarian Argoed i'r capteniaid, Bethan  a Connor.

Cyflwynodd swyddogion y Cyngor Ysgol flodau i'r beirniaid. O'r chwith i'r dde mae Bethan, Megan , Mrs. Jones, Mrs. Lewis a Jamie.

Isod, mae'r canlyniadau am 2006.

Enillwyd Cadair Cadwgan gan Melissa  am ei stori Saesneg.

Katie enillodd Gwpan Dolgoed.
Y tŷ buddugol oedd Cledan a chyflwynwyd Tarian Argoed i'r capteniaid, Rhian a Lewis.

 

 

Y n y flwyddyn 2005, y canlynol fu'n fuddugol:

Enillwyd Cadair Cadwgan gan Natasha  am ei stori Saesneg.

Natasha enillodd Gwpan Dolgoed hefyd.
Y ty buddugol eleni oedd Ysig a chyflwynwyd Tarian Argoed i'r capteniaid, Ciaran a Hannah.