Gweithgareddau'r Ysgol

Tudalen Gartref

Cyflwyniad

Staff Prosbectws Arolwg
Disgyblion Hanes Eisteddfod Newyddion Digwyddiadau Arbennig
Home Page Introduction Staff Prospectus Inspection
Pupils History Eisteddfod(Eng) News Special Events

Mwynheua'r plant amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys chwaraeon, gweithdai, ymweliadau i lefydd yn yr ardal hon ac ymhellach, perfformiadau drama, gweithgareddau codi arian, cerddoriaeth a.a.

Porwch drwy'r dudalen. Fe gaiff  ei diweddaru fesul mis ar gyfer y flwyddyn academaidd hon gan ddi-sodli cynnwys y llynedd fesul mis.

Medi Hydref Tachwedd Rhagfyr Ionawr Chwefror
Mawrth Ebrill Mai Mehefin Gorffennaf Awst

Mis Medi 2009

Ymweliad â Fferm Bwlchywernen

Fe fwynheuom ni ein hymweliad â Fferm Bwlchywernen.

Dym ni, bron a bod yn barod i ddechrau ar ein taith. Cawsom fapiau i'n helpu i ddilyn y llwybr cywir ar hyd ymyl y fferm.

'Gwell sicrhau fod pawb yma o hyd,'meddylia Miss Lorenz. Tynnwyd sylw y plant gan yr holl natur o'n cwmpas. A phwy sydd wedi ei chuddio gan y rhedyn ys gwn i?

O mis, i ble aeth fy welington i? Nawr, sut ydw i'n mynd i gadw fy sanau hyfryd yn lân? Sut fydd y gweddill ohonom yn dod i ben? Fe gawn weld sawl welington arall fydd yn mynd i golli. Bydd rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddringo dros y sticil (gamfa).

                    

Diddorwyd sawl disgybl gan y brwyn yn tyfu yn rhai o'r caeau gwlypaf. Tybed os wnân nhw'r tro fel posi o flodau i mam? Neu, efallai, gallwn wneud canhwyllau hen-ffasiwn.

                        

Fedrem ni ddim osgoi cyffwrdd a hyd yn oed blasu rhai o'r ffrwythau ar hyd y daith. Drwy lwc, roedd sawl taflen gyfeirio gyda ni er mwyn gwneud yn siwr fod y  ffrwythau yn addas ar gyfer cegau pobol bach.

 

 

Gan ein bod ni yn dysgu am fywyd ar fferm, roeddem am wybod pam roedd rhywun wedi cloddio gwteri mawr ar ymylon rhai o'r caeau.  Wyddoch chi pam? Mae'r bibell yn gliw da.

 

Mae'r ffotograff yn dangos agoriad un o'r twneli i gartrefi'r moch daear. Gwelsom sawl un ohonynt ar ein taith. Yn anffodus, welsom ni ddim moch daear - efallai y byddai ymweliad gefn nos mewn tawelwch yn fwy llwyddiannus.

Amser am hoe fach ar ben y bryn cyn cymryd amser i fwynhau cinio.
Yn ystod y prynhawn, Aethom ar daith o gwmpas clos y fferm. Fel y gwelwch fe fuom yn y parlwr godro.

 

Felly, beth sy'n digwydd i'r holl laeth? Wel, ar ôl cyfnod byr yn y cwlyr, mae'n bryd ei drosglwyddo i'r adran gynhyrchu yn y fferm.
Cawn weld os fedrwch chi ddilyn y camau ar gyfer y cynnyrch a wneir o'r llaeth. Tybed, beth sy'n cael ei gynhyrchu. 

 

Wel, oeddech chi'n gywir? Oeddech chi'n disgwyl gweld Caws Hafod, yn barod i'w fwyta? Cawsom gynnig tamaid o gaws yr un i'w flasu ac roedd pawb a brofodd peth yn blês iawn gyda'r blâs. Felly, bydd raid i ni gadw'r caws hwn mewn cof wrth fynd i siopa.

Ar ddiwedd diwrnod pleserus a llawn gwybodaeth, diolchom i Beccy am ein croesawu a'n tywys o gwmpas y fferm a rhoddwyd diolch i Iona am drefnu'r ymweliad. Gobeithio y cawn gyfle i fynd ar ymweliad â fferm unwaith eto cyn bo hir. 

Mis Hydref 2009

Y Cyngor Ysgol

Etholwyd swyddogion newydd i'r Cyngor Ysgol. Dyma nhw:

Cadeirydd - Zara Ysgrifenyddes - Anwen Trysorydd - Dylan Cynrychiolydd Dosbarth y Babanod - Grace

Parlez vous francais?

Dechreuodd disgyblion Blynyddoedd 4  a 6 dderbyn gwersi Ffrangeg ar ddechrau'r mis. Dyma ddau ddisgybl yn ymarfer edrych fel Ffrancwyr.

 

Astudiaethau Natur yn Nosbarth y Babanod

Bu Dosbarth y Babanod yn brysur iawn wrth eu gwaith yn ystod y mis. Buont allan am deithiau natur gan gasglu amrywiaeth o bethau i ddod nol gyda nhw i'r ysgol.

Mae'r merched yn edrych yn dlws iawn yn eu hetiau natur - gallent ddechrau ar ffasiwn newydd. Tybed i ble'r aeth y bechgyn i guddio wrth y camera.

Ar ôl mwynhau mynd am dro mae llawer o waith i'w wneud yn astudio a threfnu'r holl ddail a brigau, heb sôn am chwilio am greaduriaid mân.

 

Roedd hi'n amhosib osgoi yr holl fwyar duon felly roedd rhaid eu casglu. Ond beth nesaf?
Wel briwsionfwyd mwyar duon wrth gwrs. A dyma'r gwaith holl bwysig yn cychwyn a phawb yn awyddus i gael cyfrannu i'r dasg.

Chwarae teg i'r cogyddion ifainc - fe rannon nhw'r briwsionfwyd bendigedig gyda phawb arall yn yr ysgol - blasus iawn yr oedd e hefyd.

     

Sioe Deithiol Diogelwch ac Ail-gylchu

Edrychodd y plant (a'r staff) ymlaen yn fawr at y sioe deithiol diogelwch ac ailgylchu a ddaeth i'r ysgol ar ganol y mis. Ymunodd disgyblion a staff Ysgol Cilcennin gyda ni am yr achlysur. Isod mae lluniau o'r perfformwyr swyddogol, y perfformwyr gwâdd a disgyblion yr ysgol.

       

Cyn gynted ag yr ymddangosodd y brodyr bach drwg ar y llwyfan fuodd dim stop ar y diddanu (a'r addysgu hefyd).

Chwarae teg i'r brodyr Gregory am helpu Mamgu. Mae Datcu yn dipyn o gatsh a dweud y lleiaf - mae siwr o fod tipyn o alw amdano fe ar hyd a lled y wlad.

                
                                

 

 
Bu rhai o'r plant yn ddigon caredig i helpu'r perfformwyr. Josh fu'n helpu Ceredig i groesi'r heol tra bod Gareth a Morgana yn barod iawn i siglo a dawnsio i guriad y gân.
                        

Dangosodd y brodyr lawer o sbwriel y gellid ei ail-gylchu. Efallai nad yw sbwriel o werth i ni ond gall fod yn ddefnyddiol iawn i rywun arall.

Wel bachan, mae rhywun wedi pryfio yn ddiweddar. Dydw i ddim yn credu y bydd y gardigan fach bert yma o unrhyw werth i ti eto. Ond,beth am ei hail-gylchu. Gallai fod yn berffaith i rywun arall.

                                                                 

"Rhowch y rhaw o dan y baw,  rhowch y baw yn y bin," oedd geiriau cofiadwy'r gân wrth fynd â'r ci am wac. Byrdwn y gân ar feicio oedd pwysigrwydd gwisgo helmed - wedi'r cyfan mae angen cadw'r ymennydd yn ddiogel ac yn gyfan.

 

Fel y gwelwch chi, fe gawson ni fore arbennig o dda.

Mis Tachwedd 2009

Clwb Coginio yr Adran Iau

Ymunodd tri ar ddeg o ddisgyblion â'r clwb coginio a gychwynnodd ar ôl gwyliau hanner tymor. Isod mae lluniau ohonynt yn ystod y sesiwn cyntaf.

 
Roedd tri project ar waith. Dechreuodd Blwyddyn 6 ar eu tasg o wneud sgoniau. Gwneud "cheese straws" aeth â bryd blwyddyn 4. Yn gyntaf roedd rhaid iro'r tun coginio. Dyma ddau o ddisgyblion blwyddyn tri yn paratoi y bacwn ar gyfer y spaghetti carbonara.
 
Cafodd y spaghetti sych ei bwyso'n ofalus.  Welwyd yr un deigryn  wrth dorri'r wynwns yn fân. Roedd angen canolbwyntiad llwyr wrth friwsioni'r gymysgedd ar gyfer gwneud y "cheese straws".
     
   
A dyma ni -  y does gaws wedi ei rholio a'i thorri'n stribedi yn barod am y ffwrn. Reit, mae'r gymysgedd  sgoniau yn dod at ei gilydd yn dda. Beth nesaf? Wel, cyn bo hir, ar ôl rholio a thorri siapiau crwn allan o'r does dyma eu gosod ar y tun. 
   
Tra bod y sgoniau a'r "cheese straws" yn y ffwrn, manteisiwyd ar y cyfle i flasu'r spaghetti carbonara.  .. a dyma sugno'r spaghetti  ...a'i droelli o gwmpas y fforc. 
      
Tra bod ambell un yn meddwl roedd un arall yn llyncu ffwl owt. ....a llyncu a .... Tybed os oedd y spaghetti carbonara'n flasus. Mae'n anodd dweud yn dyw hi!

 

Mis Rhagfyr 2009

Datblygu Ardal Coed Helyg

Fel rhan o'r cynllun datblygu ardal allanol yr ysgol, y cam nesaf yw creu ardal coed helyg yn y Llecyn ar y Bryn. Daeth Mr. Andrew Roberts i roi cyflwyniad ar goed helyg ac i ddangos rhai enghreifftiau o gynlluniau i'r dosbarth.

                              
                                           

Gwersi Ffrangeg

Mae'r disgyblion yn mwynhau y gwersi Ffrangeg yn fawr iawn. Dyma Mrs. Davies yn defnyddio rhaglen Rigolo i gyflwyno gwers.

   

Ein Cyngerdd Nadolig

Eleni, bu Dosbarth y Babanod yn cyflwyno hanes y Nadolig cyntaf. Dyma luniau rhai ohonynt yn ystod yr ymarfer olaf ac yn dangos eu gwisgoedd.

                                         
    
             
   
Sioe Ffasiynau'r Nadolig oedd thema cyflwyniad yr Adran Iau.  
   
       
        
       
                                         

Ein Hymweliad ag Eglwys y Plwyf

Derbyniodd disgyblion yr Adran Iau wahoddiad i fynychu cyflwyniad arbennig yn Eglwys Llansanffraed dan arweiniad Mrs. Wendy Morgan. Dyma luniau ohonom yno.

               
  
     
 
 

Mis Ionawr 2009

Dechreuodd y flwyddyn gyda chryn gynnwrf yn yr ysgol wrth i'r plant baratoi ar gyfer perfformio mewn cyngerdd gyda'r enwog Catrin Finch. Isod mae rhai lluniau a gymerwyd yn ystod yr achlysur.

Bu Ieuan a Gethin yn perfformio eitemau clarinet yn unigol ac ar y cyd .

Bu'r plant yn canu ac yn actio arferion Calan i ddiddori'r gynulleidfa.

Perfformiodd Catrin amryw ddarnau gan ddiddanu'r gynulleidfa gyfan o'r ieuengaf i'r hynaf. Ar ddiwedd y noson cyflwynodd Gethin dusw o flodau i Catrin.
Ar y dde,mae Zoe newydd gyflwyno tusw o flodau i Mrs. Lewis, gwraig llywydd y noson, Mr. Les Lewis. Yn rhy fuan o lawer daeth y noson i ben a rhaid edrych ymlaen at y tro nesaf.

Ymweliadau â'r Ysgol

Ar ddiwedd y mis roeddem yn dathlu Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd ac fe ddaeth ymwelydd arbennig iawn i'r ysgol.

Theatr Mewn Addysg

Daeth Cwmni Theatr Mewn Addysg Arad Goch i'r ysgol ar yr un diwrnod i berfformio eu sioe  Merched y Gerddi. Mwynheuodd disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 y perfformiad yn fawr.

DAthlu'r Flwyddyn Newyd Tsieineaidd

Mwynheuodd Dosbarth y Babanod ddysgu am y fwyddyn newydd Tsieineaidd.

   

 

Mis Chwefror

Achubwyr Bywyd Ifanc

Cyflwynwyd tystysgrifau Achubwyr Bywyd Ifanc Ambiwlans Sant Ioan i wyth o ddisgyblion yr Adran Iau ar ôl iddynt gwblhau'r cwrs.

Isod mae luniau o ddisgyblion Adran y Babanod yn brysur wrth eu gwahanol weithgareddau

Bu peth cynnwrf yn y dosbarth wrth i'r Mypedau byd-enwog ddod i'n gweld.
Welwch chi ni wrthi'n cynllunio pentref ar gyfer y dyfodol. Sialc a thywydd braf - beth arall sydd ei angen?

Dydd Mawrth Ynyd

Dyma'r union ddiwrnod i fwynhau ychydig bach o goginio cartref. Roedd sawl pâr o ddwylo'n awyddus i gynorthwyo a phawb yn awyddus iawn i gael blasu'r cynnyrch ar ddiwedd y sesiwn.

Yn anffodus, diflannodd y pancws cyn i unrhywun gael cyfle i gydio mewn camera. Bydd raid i ni fod yn fwy parod flwyddyn nesaf!

Mis Mawrth

Llwyddiant Bobby Busters

Cystadlodd pedwar o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn rownd lleol cwis Bobby Busters a hwy fu'n fuddugol. Fe fyddant yn cystadlu yng Nghwis Bobby Busters Ceredigion i ysgolion dan 50 disgybl fis nesaf.

Ymweliad y Pasg ag Eglwys Llansantffraid

Gwahoddwyd disgyblion yr Adran Iau i Eglwys Llansantffraid i gyflwyniad ar yr Wythnos Sanctaidd gan Mrs. Wendy Morgan. Croesawodd ficer y plwyf, y Parchedig Julian Smith, ni i'r eglwys. Yna tywysodd Mrs Morgan ni o gwmpas yr eglwys tra'n cyflwyno gwybodaeth am ŵyl bwysicaf Cristnogaeth. Dangosodd y disgyblion ddiddordeb yn y cyflwyniad a holwyd cwestiynau priodol. Diolch yn fawr, Mrs. Morgan. 

      

Bwyta'n Iach - a Bwyta Bwyd Blasus

Ymunodd Miss Amy Jones, Cyd-gysylltydd Ysgolion Iach Ceredigion â ni am brynhawn o goginio. Yn gyntaf, buom yn ystyried y gwahanol grŵpiau bwyd a pham fod angen bob math o fwyd yna rhoddom ni'r eitemau bwyd yn y grŵpiau priodol. Bu cryn drafod am ambell eitem cyn dod i gytundeb ar y le gorau i'w osod.

Mwynheuom ni'r gwaith ymarferol o baratoi'r bwyd. Erbyn diwedd y prynhawn, roedd gwlêdd yn ein haros ac yn ormod o demtasiwn i'w adael ar y ford. Roedd rhaid blasu ychydig o bob peth - ac roedd digon o ddewis fel y gwelwch chi isod.

                              

    

 

Mis Ebrill

Teithiodd disgyblion Blwyddyn 6 i Ysgol Coedybryn i gystadlwu yn rownd sirol y cwis Bobby Busters. Cyd-weithion nhw'n dda tra'n mwynhau'r ffrwythau blasus a roddwyd iddynt. Ar ddiwedd y bore roeddent dros ben o falch pan gyhoeddwyd taw tîm Ysgol Llannon oedd yn fuddugol. Cyflwynwyd cwpanau unigol iddynt ar eu camp. Da iawn blant.

Datblygu Ardal Chwarae o Flaen yr Ysgol - cam 2

Yn dilyn wythnosau o waith ar y llecyn, mae'r trawsnewidiad yn amlwg ac wedi derbyn sêl bendith y disgyblion.

Procedure! Procedure!

Fel rhan o'u gwaith Saesneg ar weithdrefnau, mwynheuodd disgblion Blwyddyn 3 ddilyn y weithdrefn i greu brechdanau.

     

 

Mis Mai

Adran y Babanod

Bu disgyblionAdran y Babanod yn mwynhau eu hunain tu fewn a thu allan yr ysgol.

 
   

Byddin yr Iachawdwriaeth

Ar y diwrnod olaf cyn gwyliau croesawom Mr. Roger Thomas o Fyddin yr Iachawdwriaeth i'r ysgol. Thema'r gwasanaeth oedd y Samariad Trugarog a gwrandawodd holl blant ysgolion ein clwstwr yn astud tra'n edrych ar y lluniau cartŵn hyfryd a ddefnyddiodd Mr. Thomas wrth gyflwyno'r ddameg.

Mis Mehefin

Datblygu Iard yr Ysgol

Dechreuodd grŵp o rieni ar ran diweddaraf ein cynllun i datblygu iard yr ysgol. Bobi gan o baent, brws paent a hen ddillad oedd eu hangen i ddechrau ar y gwaith o beintio llwybrau - ynghyd â llond sach o frwdfrydedd. Mae'r plant yn teimlo'n gyffrous iawn am y syniad o gael lle lliwgar yn llawn llwybrau difyr. Gobeithiwn am haf braf a heulog fel y cawn iard ddeniadol erbyn mis Medi.

Ail-gylchu Dillad

Penderfynodd y plant a'r staff y byddai'n syniad da i ail-gylchu hen ddillad, felly bu tipyn o roi ar trefn ar y cypyrddau dillad yn yr ardal. Casglwyd bagiau lu a'u cludo i'r ysgol ar gyfer eu casglu gan gwmni bag2school.

 

Dyna beth handi yw pâr o freichiau cryf .....

 

... a rhywun wrth law i dderbyn y cargo!

 

Dyma ni 'te - y bag olaf a'r gwaith ar ben.

 

 

Beth nesaf?

Beth am lun ohonom ni gyda'r holl fagiau dillad?

 

Ail-gylchu Topiau Poteli Llaeth

Cawsom y cyfle, fel ysgol i gefnogi ymgyrch i brynu cadair olwyn drwy gasglu digon o dopiau poteli llaethi gyd-bwyso cadair olwyn. Oddi wrthym ni, mae'r topiau poteli llaeth yn cael eu cludo i Aberaeron ac oddi yno i Ysbyty Tregaron. Dyma ni gyda rhai o'r bagiau a dderbyniwyd i'r ysgol.

Adran y Babanod yn Dysgu am Blanhigion

Bu disgyblion Adran y Babanod am dro dan arweiniad ein myfyriwr Miss Alisa Lloyd i gasglu rhai planhigion gwyllt sy'n niferus iawn yn yr ardal. Yna daeth cyfle i ddysgu amdanynt yn y dosbarth.

                 

                                  

                                 

Cafwyd tipyn o hwyl yn plannu hadau amrywiol ac yna eu trawsblannu yn nes ymlaen.

Masnach Deg

Bu plant yr Aran Iau yn dysgu am Fasnach Deg yn ystod y tymor. Dyma rai lluniau ohonynt yn dysgu ac arddangosfa o'u gwaith ymchwil i gynnyrch Masnach Deg.

                    
        
Defnyddiodd Disgyblion Blynyddoedd 2, 3 a 5 gynnyrch Masnach Deg i wneud truffles gyda'n myfyriwr Mr. Ben Beard.  Roedden nhw'n eithriadol o flasus.

Tridiau yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd

Teithiodd pump o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 gyda Mr. Newcombe am dridiau o weithgareddau yng Nghaerdydd. Tybed a fedrwch chi adnabod y lleoliadau adnabyddus lle tynnwyd y ffotograffiau.

                                        
           

Dathlu Diwrnod Canada

Tra bod un criw yn mwynhau yng Nghaerdydd bu criw arall yn mwynhau yn yr ysgol. Fel rhan o broject byr ar Ganada buom yn dathlu Diwrnod Canada a pha well ffordd o orffen y dydd na thrwy wneud pancws gyda siryp a bananas. Dyma ni yn paratoi a blasu.

      

 

Mis Gorffennaf

Diwrnod Trip

Daeth diwedd tymor yr haf ac amser trip blynyddol yr ysgol. Teithiodd holl blant yr ysgol ynghyd â'r staff lawr i Sir Benfro am y dydd. Treuliodd yr Adran Iau y diwrnod yng Nghanofan Bowlio Canastan a Chanolfan Ddŵr Blue Lagoon. Mwynheuodd y plant a'r staff cystal â'i gilydd ac roedd y tawelwch ar y bws ar y ffordd adref yn brawf fod pawb wedi blino braidd. Isod mae lluniau ohonom yn bowlio.

                            

Yn anffodus roedd gormod o fwynhau'n digwydd i feddwl cymryd lluniau yn y pwll nofio a'r llithrenni amrywiol yn y Blue Lagoon.

Treuliodd Adran y Babanod y diwrnod yn Fferm Folly gan fwynhau eu hunain yn fawr iawn.

Ymlacio a Mwynhau

Rhaid achub mantais i ymlacio a mwynhau ar bob cyfle. Dyma ni yn gwneud ein gorau - yn ôl yr arfer.

  

                         
Mae'n dda fod plant y Babanod yn gwybod sut i eistedd wth y bwrdd gan fod y lliw glas ar y llawr wedi drysu ambell un!

                        

     
 

Diwrnod Mabolgampau

Yn ôl yr arfer bu  hir-ddisgwyl am ddiwrnod y mabolgampau a chyffro mawr ar y dydd. Isod mae rhai lluniau o'r plant wrthi'n cystadlu a'r staff yn mwynhau.

    

     

  

Ar ddiwedd y mabolgampau, cyflwynwyd tariannau a chwpanau i fuddugwyr y gwahanol grwpiau oedran. Cledan oedd y tŷ buddugol a chyflwynwyd y cwpan i'r capteniaid.

Isod mae luniau y tri tŷ, sef Cledan, Peris ac Ysig.

Cwpan Sunnycroft

Cyflwynir Cwpan Sunnycroft yn flynyddol i'r unigolyn sydd wedi perfformio orau ym maes Chwaraeon. Eleni, cyflwynwyd Cwpan Sunnycroft i Ieuan Paske.

Cyflwynwyd Cwpan Sunnycroft i Ieuan ar ddiwrnod y Mabolgampau. Isod, mae Ieuan yn arddangos ei sgiliau nofio ar dir i weddill y plant!