Newyddion yr Ysgol           School News

Tudalen Gartref

Cyflwyniad

Staff Prosbectws Arolwg
Disgyblion Gweithgareddau Hanes Eisteddfod Digwyddiadau Arbennig
Home Page Introduction Staff Prospectus Inspection
Pupils Activities History Eisteddfod(Eng) Special Events

Digwyddiadau i ddod

05.02.10 -  Bydd Ms Karen Roberts yn gwneud cyflwyniad ar Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân

08.02.10 - Wythnos datblygu cynllun coed helyg yr ysgol. Gwahoddir rhieni a ffrindiau'r ysgol i gynorthwyo gyda'r cynllun.

10.02.10 - Cyflwyniad i rieni a darpar rieni ar y cyfnod Sylfaen - 1:00y.p.

11.02.10 - Bydd gwersi Ffrangeg i ddisgyblion Blynyddoedd 4 a 6 yn ail-gychwyn

12.02.10 - Bydd yr ysgol ar gau i'r holl ddisgyblion oherwydd fod yr athrawon yn mynychu Hyfforddiant Mewn Swydd

15.02.10 – 19.02.10 - wythnos o wyliau hanner tymor

22.02.10 - Bydd yr ysgol ar gau i'r holl ddisgyblion oherwydd fod yr athrawon yn mynychu Hyfforddiant Mewn Swydd

25.02.10 - Disgyblion yr adran Iau yn ymweld ag Archifdy Ceredigion yn yr hen Swyddfa Addysg am y bore

01.03.10 – Eisteddfod Gŵyl Ddewi yr ysgol - i ddechrau am 10:00y.b.

25.03.10 Diwrnod Pontio Blwyddyn 6 yn Ysgol Uwchradd Aberaeron

26.03.10 Diwrnod ola’r tymor.

Newyddion Ionawr

Clwb 100:

1. Miss Mari Harcombe, Awelfa, Llannon

2. Mrs. Sian Lewis, Clydevale, Llannon

3. Mr. Sion Morgan, Pentraeeth, Llannon

Clwb Hwyl y Plant:

Cychwynnodd Clwb Hwyl y Plant ar ddechrau'r tymor. Mae'n rhedeg o 3:30y.p. tan 5:30y.p. o Ddydd Llun i ddydd Gwener. Mwynheua'r plant fynychu'r clwb a chael cyfleon i fwynhau eu hunain yn cyflawni amrywiaeth o weithgareddau.

Myfyrwyr Newydd:

Croesawn fyfyrwyr i'r ysgol y tymor hwn. Bydd Miss Anna Sturrock yn yr Adran Iau yn ddyddiol a Mr. Curtis Lewis yn Adran y Babanod bob Dydd Llun a Dydd Mawrth.

Tywydd garw yn gohirio dechrau'r tymor:

O ganlyniad i dywydd garw ar ddechrau'r tymor, bu raid cau'r ysgol am dridiau. Fe agorodd yr ysgol ar Ddydd Gwener, Ionawr yr 8fed.

Newyddion Rhagfyr

Clwb 100:

1. Mr. a Mrs. Dai ac Avril Evans, Gwalia Llannon.

2. Mr. Leslie Lewis, Birmingham House, Llannon.

3. Master Steffan Hopkins, Y Bryn, Llannon.

 Pontio Blwyddyn 6 :

Treuliodd disgyblion Blwyddyn 6 y diwrnod yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Thema y dydd oedd Cyffro Creadigol. Mwynheuodd y disgyblion weithgareddau Cerdd, Drama a Chelf.

Hanes Lleol:

Croesawodd disgyblion yr Adran Iau a'r staff Mrs. Dowse i'r ysgol ar fore Llun, Rhagfyr 7fed. Rhoddodd Mrs. Dowse gyflwyniad i'r plant ar fywyd yn y pentref pan oedd hi'n blentyn ac yn ddiweddarach. Roedd yn ddifyr iawn clywed am yr amrywiaeth o fusnesau oedd i gael yn y pentref. Diolch yn fawr am eich amser a'ch gwybodaeth.

Gair am Air:

Daeth Cwmni Theatr Mewn Addysg Arad Goch ar ymweliad â'r ysgol ar fore Iau, Rhagfyr 10fed. Disgyblion Adran y Babanod gafodd y cyfle i fwynhau'r cyflwyniad Gair am Air a'r gweithdai canlynol.

Gwasanaeth Carolau Merched y Wawr:

Ar brynhawn Sul, Rhagfyr 13eg, cynhaliwyd gwasanaeth carolau Merched y Wawr yn Neuadd y Pentref. Cyfrannodd disgyblion Adran y Babanod a'r Adran Iau eitemau i'r gwasanaeth.

Cyngerdd Nadolig yr Ysgol:

Ar nos Lun, Rhagfyr 14eg, daeth cynulleidfa dda o deuluoedd y disgyblion a ffrindiau'r ysgol ynghyd ar gyfer ein cyngerdd Nadolig. I ddechrau, cyflwynodd Adran y Babanod hanes y geni a dilynwyd hynny gan Sioe Ffasiynau'r Nadolig gan yr Adran Iau. Mwynheuodd y gynulleidfa'r cyflwyniadau'n fawr a llongyfarchwyd y plant ar eu perfformiadau.

Ymweliad â'r Eglwys:

Fore Dydd Mawrth, Rhagfyr 15fed, cerddodd disgyblion yr Adran Iau i eglwys Llansanffraed ar gyfer cyflwyniad arbennig ar hanes geni'r Iesu gan Mrs. Wendy Morgan. Cyflwynodd y Nadolig cyntaf, fesul hanesyn a chan symud i wahanol rannau o'r eglwys am yr hanesion. Erbyn diwedd y cyflwyniad roedd pawb mewn gwisgoedd yn cynrychioli gwahanol rannau o'r hanes ac wedi dychwelyd i'r man cychwyn sef wrth yr allor. Cafodd y plant gyfle i gymharu yr haenesion sydd yn y beibl gyda storiau a straeon poblogaidd. Roedd y bore'n ddifyr a llawn gwybodaeth. I orffen y bore, darparwyd diod a byrbryd blasus. Rhoddodd hwnnw ddigon o nerth i'r disgyblion a'r plant i gyrraedd nol yn yr ysgol erbyn cinio.

Pentref Bach:

Yn dilyn cinio cynnar ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr 15fed, teithiodd disgyblion a staff Adran y Babanod i Bentref Bach i gwrdd a Sion Corn. fe gawson nhw amser arbennig o dda yno a dychwelasant cyn diwedd y prynhawn gydag anrheg yr un.

Cinio Nadolig :

Paratôdd ein cogyddes, Mrs. Lionel ginio twrci rhost blasus iawn i'r disgyblion a'r staff ar Ddydd Mercher, Rhagfyr 16eg. Mwynheuodd bawb y cinio'n fawr.

Parti Nadolig:

Trefnwyd parti Nadolig ar gyfer Dydd Iau ola'r tymor. Cafwyd prynhawn bendigedig gyda phawb mewn hwyliau ardderchog ac nid oes syndod o gwbl am hynny. Cychwynnodd y prynhawn gyda'r plant yn chwarae amryw o gemau parti traddodiadol. Daraprodd y rhieni wlêdd o fwydydd a bwytawodd y plant fel na phetaent wedi gweld bwyd o'r blaen. I orffen y prynhawn daeth Sion Corn ar ei ymweliad blynyddol gan ddosbarthu llu o anrhegion ymysg y plant a'r staff. Daeth y dydd i ben gyda gwên ar wyneb pawb.

Twneli Helyg:

Derbyniasom ymweliad gan Mr. Andrew Roberts ar fore Gwener, Rhagfyr 18fed. Rhoddodd gyflwyniad i ddisgyblion yr Adran Iau ar dyfu goed helyg a dangosodd amryw ffurfiau o hyfforddi'r helyg i dyfu. Bu'r plant yn astudio cynlluniau cyn mynd allan i'r llecyn i fesur a thrafod syniadau ar gyfer yr ardal. Lluniwyd braslun o gynllun ar gyfer plannu coed helyg ym mis Chwefror. Os fydd y tywydd yn caniatau, bwriadwn, gyda chymorth rhieni a ffrindiau'r ysgol, baratoi'r tir a phlannu coed helyg yn ystod yr wythnos cyn gwyliau hanner tymor.

Diwedd tymor:

Daeth diwrnod ola'r tymor ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 18fed. Dymunwyd gwyliau hapus a dedwydd i bawb.

Newyddion Tachwedd

Clwb 100:

1. Mrs. Kath Lionel, Llanrhystud.

2. Mr. Gerwyn Evans, Gwalia, Llannon.

3. Mrs. Carol Evans, Garnfach, Llannon.

Croeso:

Croeso cynnes i Amber i Flwyddyn 1, Taylor i Flwyddyn 2 a Shane i Flwyddyn 4; gobeithiwn y byddant yn hapus iawn yn Ysgol Llannon.

Gala Nofio yr Urdd:

Mwynheuodd disgyblion Blynyddoedd 3 - 6 y profiad o gymryd rhan yng ngala nofio'r Urdd ym Mhlascrug, Aberystwyth ar Ddydd Iau, Tachwedd 5ed. Llongyfarchiadau calonog i Owen Jones ar ddod yn ail yn râs pili pala i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4.

Ymweliad ag Hafan yr Efail

Ar Ddydd Llun, Tachwedd  2il, treuliodd disgyblion yr Adran Iau gyfnod yn ystod y bore yn coginio amrywiaeth o fwydydd i'w gludo i Hafan yr Efail yn ystod y prynhawn. Dangoswyd clipiau  DVD o'r neidiau parasiwt diweddar i'r trigolion ac aelodau eraill o'r gymuned cyn y gweinwyd lluniaeth ysgafn gan rai o'r rhieni. 

Perfformiad Clustiau March

Mwynheuodd disgyblion Blwyddyn 4 a iau gyflwyniad "Clustiau March" gan y Theatr Bypedau ar Ddydd Mawrth, Tachwedd 10fed. Ymunodd disgyblion ysgolion  Cilcennin a Myfennydd gyda ni am y cyflwyniad.

Cefnogi Ty Hafan

Bu Mr. Phil Thomas ar ymweliad â'r ysgol ar Ddydd Mercher, Tachwedd 11eg a rhoddodd gyflwyniad i'r plant ar Dŷ Hafan. Roedd gan y plant ddiddordeb mawr mewn dysgu am y gwasanaeth hwn i blant sy'n wael eu hiechyd. Cyflwynodd aelodau o'r Cyngor Ysgol siec am £50 i Mr. Phil Thomas, arian a gasglwyd yn ystod ein Gwasanaeth Diolchgarwch ychydig cyn gwyliau hanner tymor.

Diwrnod Plant Mewn Angen

Penderfynodd y disgyblion wisgo pyjamas am y dydd fel gweithgarwch i godi arian i Blant Mewn Angen - gan arbed tipyn o amser a ffwdan i bawb ben bore. Codwyd £50 o arian drwy gyfraniadau disgyblion a staff.

Myfyrwraig

Croesawyd Miss Anne Sturrock, myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth University, i'r ysgol. Bydd Miss Sturrock sy'n dilyn cwrs ôl radd yn treulio pythefnos yn yr ysgol yn awr ac yna'n dychwelyd ym mis Ionawr ar gyfer cyfnod o ymarfer dysgu.

Barti Ddu

Ar Ddydd Gwener, Tachwedd 27ain, teithiodd y plant a'r staff i Theatr y Werin i wylio'r pantomeim  Barti Ddu.

Bag2schools

Diolch i bawb wnaeth gefnogi ymgyrch Bag2schools a gynhaliwyd yn ddiweddar.  Fe fyddwn yn clywed yn y man faint o arian a godwyd o ganlyniad i'r fenter.

 

Newyddion Hydref

Clwb 100:

1. Mr. Owen Evans, Garnfach, Llannon

2. Miss Mari Harcombe, Awelfa, Llannon

3. Mr. a Mrs. Eirwyn Evans, Llanddeiniol.

Gwersi Ffrangeg:

Mwynheuodd disgyblion blynyddoedd 4 a 6 eu dwy wers gyntaf o Ffrangeg am y tymor hwn.  Mrs. Gwyneth Davies sydd wedi bod yn cyflwyno'r gwersi ac mae grŵp brwdfrydig iawn  wedi disgwyl yn eiddgar am ei gwersi.

Cwrs Preswyl Llain:

Mwynheuodd disgyblion yn yr Adran Iau dridiau yng Nghanolfan Awyr-agored Preswyl Llain.Cymeron nhw ran mewn ystod o weithgareddau yn amrywio o weithgareddau datblygu sgiliau tîm i weithgareddau mwy anturus a heriol gan ynnwys adeiladu rafft, dringo wal, abseilio, saethyddiaeth, cyfeiriannu, y wifren sip a'r cwrs antur. Dangosodd y digyblion gyfuniad o ddyfal-barhâd a chymeriad cryf wrth wynebu heriau anodd a brawychus. Gellwch weld ffotograffiau o'r plant wrth y gweithgareddau dry wasgu'r botwm cysylltu ar dudalen Gweithgareddau. Maent yn werth eu gweld.

Diwrnod Pontio Technoleg :

Cynhaliwyd y diwrnod pontio cyntaf i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Aberaeron; diwrnod Technoleg oedd e. Yn awr, mae'r disgyblion yn edrych ymlaen at y diwrnod pontio nesaf ym mis Rhagfyr.

Diogelwch ar y Ffordd ac Ail-gylchu

Croesawyd y Brodyr Gregory a'r Criw i Ysgol Llannon i berfformio sioe wych ar gyfer disgyblion ysgolion Llannon a Chilcennin. Roedd yn sioe ddifyr tu hwnt i ddisgyblion 4-11 oed (a'u hathrawon) tra'n addysgiadol ar yr un pryd. Hoeliwyd sylw'r plant ar faterion diogelwch megis gwisgo helmed pan yn beicio, gwisgo gwregys ddiosgelwch mewn cerbyd a dal llaw oedolyn tra allan ar yr heol. Targedwyd glanhau ar ôl y ci pan allan am dro a phwysigrwydd ail-gylchu yn ystod y sioe gerdd ddiddan a gweledol. Yn rhy glou o lawer, daeth y sioe i ben ond gobeithio y bydd y negeseuon yn para'n hir.

Newyddion Medi

Croeso:

Croeso cynnes i bawb i'r ysgol am flwyddyn newydd arall. Estynwn groeso arbennig i Miss Lorenz, athrawes newydd y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Llannon. Mae Miss Lorenz eisoes wedi ymsefydlu yn yr ysgol ac yn gaffaeliad i'r sefydliad. Croeso cynnes hefyd i Harry Read sydd newydd gychwyn yn Nosbarth y Babanod. Croesawn Miss Samantha Davies a Miss Rebecca Sweeney, myfyrwyr o Goleg Ceredigion sy'n astudio amd dystygrif Diploma mewn ofal Plant ac Addysg,  newydd gychwyn ar brofiad gwaith yn Adran y Babanod a dymunwn yn dda iddynt yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol. Mrs. Anwylyd Evans yw'r athrawes fro newydd. Gobeithiwn y byddant oll yn hapus iawn yn Ysgol Llannon.

Clwb 100:

1. Master Hari Jones, Llyswen, Llannon

2. Mr. Kevin Evans, Homerton, Llannon

3. Mr. Ceredig Hopkins, Garej Ty Gwyn, Nebo.

Clwb Brecwast:

Darperir brecwast iach yn rhâd ac am ddim bob bore i ddisgyblion Ysgol Llannon o 8:15y.b.

Clybiau ar ôl Ysgol:

Mae Clwb Cyfrifiadur Blwyddyn 3  yn cyfafod bob prynhawn Mawrth o 3:30y.p. nes 4:30y.p. Am yr wythosau nesaf fe fydd y plant yn datblygu sgiliau defnyddio nodweddion amrywiol y rhaglen Paint. Ar brynhawniau Iau mae Clwb Cyfrifiadur Blynyddoedd 4 - 6 yn cyfarfod i ddysgu creu gwefan.

Pencampwriaeth Pêl-droed yr Urdd:

Teithiodd tîm pêl-droed yr ysgol i Langrannog i gystadlu ym Mhencampwriaeth Pêl-droed yr Urdd i Ysgolion Cylch Aeron. Mwynheuodd y tîm chwarae'r gêmau amrywiol er na chawsant lwyddiant eleni.

Ymwelwyr:

Cawsom ein hymwelwyr cyntaf y tymor hwn ar fore Dydd Llun, Medi'r 14eg pan ddaeth ymwelwyr o America gyda ficer y plwyf, y Parchedig Julian Smith i gyflwyno gwasanaeth yr ysgol. Cyflwynwyd hanes Porthi'r Pum Mil a derbyniodd pob disgybl nod llyfr o faner yr Unol Daleithiau yn anrheg.

Clwb Drama:

Mynychodd pedwar disgybl y Clwb Drama yn Theatr Felinfach ar fore Sadwrn, Medi'r 19eg. Edrychwn ymlaen at glywed y trefniadau am weddill y tymor.

Ymweliad â Fferm Bwlchywernen:

Teithiodd yr ysgol gyfan i Fferm Organig Bwlchywernen, ger Llangybi, a drefnwyd gan Miss Iona Davies. Mwynheuodd y disgyblion daith o gwmpas perimedr y fferm yn ystod y bore. Ar ôl cinio dangoswyd y disgyblion o gwmpas y fferm, dysgon nhw am bwysigrwydd bwydo'r da godro gyda bwydydd naturiol o safon da a chafwyd arddangosfa o sut y gwneir caws Hafod ar y fferm. Derbyniodd mwyafrif y disgyblion ddarn o gaws Hafod i'w flasu. Cadwyd diddordeb y plant gydol y dydd a holodd y plant amryw gwestiynau. Daeth yn bryd ymadael a dechrau ar ein taith tuag adref wedi mwynhau'r diwrnod yn fawr. Diolch i deulu Bwlchywernen am eu croeso cynnes.

Mwy a mwy o fwyar:

Yn ystod taith gerdded, ar hyd Cwm Cledan denwyd sylw disgyblion Dosbarth y Babanod gan y mwyar duon aeddfed blasus ac roeddent am fynd i gasglu mwyar. Trefnwyd Taith Fwyara a chasglodd y plant ddigon ar gyfer sesiwn coginio. Cyd-weihiodd amryw o ddwylo bychain yn y dasg o wneud briwsionfwyd mwyar duon - digon ar gyfer eu hunain, y Dosbarth Iau a'r staff. Cafodd pawb flâs ar y bwyta. Diolch yn fawr i goginwyr y dyfodol.

Gwersi Cychwynnol Ffrangeg:

Mae disgyblion Blynddoedd 4-6 yn cymryd rhan mewn cyfres o wersi a gweithgareddau Ffrangeg yn ystod y tymor. Arweinir y sesiynau gan Mrs. Gwyneth Davies.

Gwersi Cerddoriaeth:

Mae disgyblion blwydyn 3 wedi dechrau derbyn gwersi ffidil fel rhan o gynllun Cychwyn Cerdd yr ysgol.  Mrs. Kathy Owen iyw'r athrawes ffidil. Ar yr un pryd, mae disgyblion Blynyddoedd 4-6 yn dysgu canu'r recorder. 

Datblygiadau Allanol:

Mae Ysgol Llannon yn parhau i ddatblygu'r tir allanol er mwyn creu amgylchedd allanol ysgogol.  Mae Hafan Fach, yr ail ran sy'n cynnwys cwch, pagoda, meinciau a gardd newydd, wedi ei chwblhau, yn ogystal â cham cyntaf y drydedd ran. Mae gan yr Adran Iau fynediad yn awr at Llecyn ar y Bryn, ardal gaeedig sydd uwchlaw iard chwarae yr ysgol.

Bore Coffi:

Cynhaliwyd Bore Coffi yn neuadd yr ysgol ar fore Sadwrn, Medi'r 19eg. Braf oedd gweld cefnogwyr ffyddlon yr ysgol yn bresennol ynghyd â wynebau newydd a nifer o rieni a fu'n cyd-weithio i sicrhau llwyddiant y bore.  Tywyswyd pobl o gwmpas ardal allanol yr ysgol i ddangos y datblygiadau dweddaraf i ardaloedd chwarae y plant.

Neidiau Parasiwt Noddedig:

Ar Fedi'r 20fed, bydd dwy riant a'r brif athrawes yn cwblhau neidiau parasiwt i godi arian i Apêl yr Iard Chwarae. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Gymdeithas Rieni, Athrawon a Ffrindiau'r Ysgol eisoes drwy noddi'r parasiwtwyr. Os hoffai unrhywun gefnogi'r ymgyrch, mae croeso i chi ddanfon siec at y gymdeithas neu gysylltu agaelod o staff yn uniongyrchol. Bydd ffotograffiau o'r fenter i'w gweld ar dudalen Digwyddiadau Arbennig cyn gynted ag y byddant ar gael.

Cylch Ti a Fi:

Cynhelir ‘Cylch Ti a Fi' yr ardal yn  neuadd Ysgol Llannon bob prynhawn Mercher rhwng 2:00y.p. a 3:25y.p. Y gost wythnosol yw £1. Os oes gennych ddiddordeb yna dewch i ymuno neu am wybodaeth pellach cysylltwch â'r ysgol ar 01974 202 478.

 

Newyddion Gorffennaf

Clwb 100:

Enillwyr mis Gorffennaf:

1. Mr. Andre Morgan, Pentraeth, Llannon

2. Miss Ella Evans, Caerdydd

3. Miss Glesni Morgan, Pentraeth, Llannon

Enillwyr mis Awst:

1. Mrs. Nesta Hamer, New Cross, Llannon

2. Mr. Chris Newcombe, Ysgol Llannon

3. Mr. Keith Morgan, Cylch Peris, Llannon

Gwobr Bonws:

Mrs. Nesta Hamer, New Cross, Llannon

 

Pencampwriaeth Criced Cylch Aeron:

Cymrodd disgyblion Adran y Babanod ran ym Mhencampwriaeth Criced Cylch Aeron ar Ddydd, Mercher, Gorffennaf 1af. Cyrhaeddodd un tîm y rownd gyn-derfynnol ond colli fu'r hanes yn erbyn Ysgol Aberaeron a aeth ymlaen i'r gêm derfynnol. Mwynheuodd dau dîm yr ysgol eu hunain gan ddatblygu'u sgiliau criced tra'n mwynhau cymdeithasu ar yr un pryd.

Diwrnod Un Byd:

Treuliodd plant yr Adran Iau Ddydd Gwener, Gorffennaf 3ydd, yn Ysgol Gyfun Aberaeron gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo Diwrnod Un Dydd. Mwynheuodd pob grŵp eu gweithgareddau.

Ymweliadau Llywodraethwyr:

Cawsom gwmni nifer o lywodraethwyr yr ysgol yn ystod Dydd Mercher, Gorffennaf 8fed. Buont yn gwylio gwersi Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ogystal â'r gweithgareddau yn y Cyfnod Sylfaen.

Cyflwyniad ar wlad Ghana:

Daeth Miss Nia Jones ar ymwelid i'r ysgol. Treuliodd Miss Jones fis yng ngwlad Ghana yn ystod haf 2008. Rhoddodd gyflwyniad difyr iawn gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadur Pwer-bwynt i ddangos lluniau  tra'r oedd yn siarad. Bu'r disgyblion yn dysgu am Fasnach Deg yn ystod y tymor gan gynnwys cynlluniau yng ngwlad Ghana. Siaradodd Nia  am ymdrechion y pentrefwyr i wella eu bywydau eu hunain a'u plant. Synnwyd y staff a'r plant fod disgwyl i Nia helpu i osod sylfeini'r estyniad i'r ysgol bob prynhawn ar ôl gorffen dysgu am y dydd a doedd dim y fath beth ag amser cinio. Mwynheuodd disgyblion Blynyddoedd 2-6 ddysgu am fywyd yng ngwlad Ghana. Diolch yn fawr Nia am eich hamser.

Trip Blynyddol yr Ysgol:

Treuliwyd y diwrnod yn Sir Benfro - Adran y Babanod yn Fferm Folly a'r Adran Iau yng Nghanolfan Bowlio Canastan a'r Blue Lagoon. Roedd gan ddisgyblion Adran y Babanod straeon difyr iawn am yr anifeiliaid a welsant gan gynnwys rhai am greaduriaid oedd â'u bryd ar gael y plant i ginio. Mwynheuodd ddisgyblion yr Adran Iau sesiwn yn chwarae bowlio deg yng Nghanolfan Canastan cyn symud ychydig gan medrau i'r Blue Lagoon lle buont yn mwynhau y pwl nofio a'r llithrenni yn ddi-baid am yn agos i deirawr. Mae'n anodd dweud p'un ai'r plant neu'r athrawon fwynheuodd fwyaf. Os ewch i'n tudalen Weithgareddau fe fydd ffotograffiau o'r diwrnod i'w gweld yno.

Croesawu Disgyblion Newydd:

Croeso cynnes i Alex a Ben  i'r ysgol. Cânt gyfle i ymgartrefu yn ystod yr wythnos cyn diwedd tymor.

Newidiadau Staffio:

Llongyfarchwn Mr. Chris Newcombe ar ei benodiad fel Pennaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Plascrug. Fe fydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Medi. Diolchwn iddo am ei gyfraniad i addysg disgyblion yn Ysgol Llannon yn ystod y bum mlynedd diwethaf a dymunwn yn dda iddo yn ei ddyfodol. Pob lwc a phob llwyddiant, Mr. Newcombe.

Penodwyd athrawes newydd i'r Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Llannon. Llongyfarchiadau i Miss Emma Lorenz ar ei phenodiad ac edrychwn ymlaen yn fawr at ei chroesawu i'r ysgol ym mis Medi.

Newyddion Mehefin

Clwb 100:

Enillwyr mis Mehefin:

1. Miss Glesni Morgan, Pentraeth, Llannon

2. Mr. Andre Morgan, Pentraeth, Llannon.

3. Mrs. Mags Morgan, Cylch Peris,  Llannon

Sioe Rwtsh Ratsh Rala Rwdins:

Teithiodd disgyblion Adran y Babanod i Aberystwyth i wylio perfformiad o Sioe Rwtsh Ratsh Rala Rwdins Show - sioe wedi ei seilio ar y gyfres storiau boblogaidd. Dychwelodd y plant i'r ysgol wedi mwynhau eu hunain ac yn llawn camoliaeth.  

Cyflwyniad Addysg Iechyd:

Ymwelodd Nyrs Heather Whalley â'r ysgol i roi cyflwyniad ar dyfu i fyny i ddisgyblion Blynyddoedd  5 a 6. Yn unol â'r arfer, erbyn diwedd y sesiwn roedd gan y plant wybodaeth priodol da a chawsant gyfleon di-ri i holi cwestiynau neu siarad am unrhyw faterion o bwys iddynt.  Mae Nyrs Heather Whalley bob amser yn llwyddo i ennyn trafodaethau agored ymysg y plant ta waeth beth yw thema'r dydd.

Croesawu Disgyblion Newydd:

Croesawn Anwen a Gareth EDkins i'r ysgol gan ddymuno'n dda iddynt yn ystod eu cyfnod yma. Maent eisoes wedi ymgartrefu ac yn aelodau poblogaidd o'u dosbarthiadau.

Gweithdy Storiau Digidol:

Ar Fehefin 1af, ymwelodd Mr. Tim Davies â ni i arwain disgyblion Blynyddoed 5 a 6 mewn project creu storiau digidol. O fewn munudau roedd y plant wedi eu hysbrydoli ac yn awyddus i ddechrau ar eu tasgiau. Bydd y storiau ar dudalen Disgyblion yn y man. 

Pencampwriaeth Rownderi Ysgolion Cylch Aeron:

Aeth Mrs. Helen Jones â'r tîm rownderi i Gae Hoci Aberaeron i gystadlu ym Mhencampwriaeth Rownderi Ysgolion Cylch Aeron. Chwaraeodd pob aelod yn dda iawn gan wneud eu gorau.

Bag2School:

Ar Fehefin 16eg, edrychai blaen yr ysgol yn debyg i ganolfan ail-gylchu wrth i gwdyn ar ôl cwdyn gael eu gadael yno gan rieni a ffrindiau'r ysgol. Mae'r ysgol yn cymryd rhan mewn cynllun i ail-gylchu dillad sydd mewn cyflwr da tra ar yr un pryd yn codi arian i goffrau'r ysgol.  Derbyniasom gefnogaeth arbennig gan gasglu 1415kg o ddillad. Bwriadwn gynnal diwrnod ail-gylchu dillad arall yn ystod tymor yr hydref. Os oes gan rywun ddiddordeb gellwch gysylltu â'r ysgol tua diwedd mis Medi i gael cwdyn.   

Ffotograffiau Ysgol:

Bu'r ffotograffydd Louise Noakes yn yr ysgol i dynnu ffotograffiau unigol, teuluol, dosbarth ac ysgol gyfan. Disgwyliwn dderbyn y lluniau cyn diwedd tymor.

Gwersyll yr Urdd, Caerdydd:

Treuliodd pump o ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 dridiau yng Nhaerdydd yng nghwmi Mr. Newcombe. Roedden nhw'n aros yng Nghanolfan y Mileniwm ac yn teithio i wahanol atyniadau yn yr ardal. Gellwch weld rhai ffotograffiau ar dudalen Gweithgareddau.

Newyddion Mai

Clwb 100:

Enillwyr mis Mai:

1. Master Jamie Aylett, Gwesty'r Central, Llannon

2. Mrs. Nesta Hamer, New Cross, Llannon.

3. Mr. Dave Howells, The Mount, Llannon

Croesawu Disgybl Newydd:

Croesawn Zara Cridland i flwyddyn 5 yn yr ysgol gan obeithio y bydd hi'n hapus iawn yma.

Mabolgampau Ysgolion Cylch Aeron :

Mwynheuodd disgyblion Blynyddoedd 2 - 6 ddiwrnod o gystadlu iachus yn erbyn cynrychiolwyr ysgolion cynradd Cylch Aeron yng Nghae Hoci Aberaeron. Diwrnod arbennig ar ei hyd gyda sawl llwyddiant i ddisyblion yr ysgol.

Diwrnodau Blasu :

Cychwynnodd disgyblion Blwyddyn 6 ar gyfres o ddiwrnodau pontio yn Ysgol Gyfun Aberaeron er mwyn iddynt gael cyfleon i gyfarwyddo â'u hysgol newydd.

Ymweliad gan Mr. Roger Thomas :

Croesawom Mr. Roger Thomas, o Fyddin yr Iachawdwriaeth, i'r ysgol ar Ddydd Gwener, Mai'r 22ain. Cyflwynodd wasanaeth diddorol iawn ar ddameg y Samariad Trugarog gan hoelio sylw holl blant ysgolion y clwstwr gydol y cyflwyniad. Diolch yn fawr i Mr. Thomas am ei ymweliadau rheolaidd â'r ysgol.

 

Newyddion Ebrill

Clwb 100:

Enillwyr mis Ebrill:

1.Mr. Sion Morgan, Pentraeth

2.Mr. Hywel Evans, Caerdydd

3.Master Owen Jones, Myrtledene

Clwb Schools' Football Initiatives

Ymunodd nifer o ddisgyblion Blynyddoedd 2-4 yn y clwb a mwynheuon nhw'n fawr yr amrywiaeth o weithgareddau dan arweiniad Mr. Jack Davey bob prynhawn Iau ar ôl ysgol.

Croeso Cynnes:

Estynnwn groeso arbennig i Mr. Ben Beard a Miss Alisa Lloyd, y ddau ohonynt yn athrawon dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cwblhau eu hymarfer dysgu olaf yn Ysgol Llannon yn ystod tymor yr haf. Croesawn ddisgyblion newydd, sef Ollie Jones, Roscoe Lloyd a Ioan Harcombe i Adran y Babanod. Maent wedi treulio cyfnodau yn yr ysgol yn barod ac yn cychwyn ar eu haddysg llawn amser yn awr.

Rasys Trawsgwlad:

Cystadlodd disgyblion yr Adran Iau yn Rasys Trawsgwlad Ysgolion Cylch Aeron gan fwynhau eu hunain. Bydd y rhai a ddaeth yn y deg cyntaf yn y rasys yn cystadlu yn y rasys sirol.

Llwyddiant Bobby Busters:

Llongyfarchiadau i dim Blwyddyn 6 ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Bobby Busters. Teithiodd y plant i Ysgol Coedybryn yng nghwmni Mrs. Helen Jones am y gystadleuaeth. Mwynheuodd y plant y ffrwythau a ddarparwyd ar eu cyfer yn ogystal â'r cyfle i gystadlu. Roeddent yn blês iawn gyda'u llwyddiant fel ag yr oedd gweddill yr ysgol. Llongyfarchiadau blant.

Newyddion Mawrth

 

Clwb 100:

Enillwyr mis Mawrth:

1.Miss Anwen Evans, Llanddeiniol

2.Miss Sharon Davies, Pentyparc

3.Master Trystan Hopkins, Y Bryn

Ymweliad â Phentre Bach

Mwynheuodd disgyblion Adrannau Babanod ysgolion y clwstwr ddiwrnod ym Mhentre Bach fel rhan o weithgareddau dathlu Diwrnod y Llyfr.

Ymweliad Ysgolion Iach

Cymrodd holl blant yr ysgol ran mewn gwahanol weithdai dan arweiniad y Nyrs Ysgol, Mrs. Heather Whalley a Swyddog Cyswllt yr Heddlu, P.C. Jackie Stevenson. Themau'r gweithdai oedd Moddion a Chyffuriau.

Llwyddiant Bobby Busters'

Ar Ddydd Llun, Mawrth 16eg, cystadlodd tîm o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn rownd lleol Cwis  Bobby Busters. Fe wnaethon nhw'n dda iawn gan ennilll eu lle i gynrychioli'r ardal yn y rownd nesaf sydd i'w gynnal ar Ebrill 27ain. Llongyfarchiadau iddyn nhw ar eu llwyddiant hyd yn hyn a dymuniadau gorau ar gyfer y rownd nesaf.

Pecynnau Cinio Iach

Treuliodd disgyblion Blynyddoedd 2-6 brynhawn yn paratoi bwydydd iach ar gyfer eu cynnwys mewn pecynnau cinio. Paratodd gwahanol grŵpiau o ddisgyblion ddanteithion bendigedig ar gyfer y pecynnau. Cyd-weithiodd pawb o fewn eu grŵpiau ac erbyn diwedd y prynhawn roedd gan y plant amrywiaeth o fwydydd blasus a iach i fynd adref gyda nhw.  

Eisteddfod yr ysgol

Eleni, cynhaliwyd ein heisteddfod ar Ddydd Mercher, Mawrth 18fed. Ymunodd nifer o rieni a ffrindiau'r ysgol gyda ni am ddiwrnod o gystadlu iach gyda phob plentyn yn perfformio o flaen cynulleidfa gefnogol. Bu'r beirniaid, Mr a Mrs. Jeff a Rhiannon Lewis, yn brysur gydol y dydd a gwerthfawrogwn yn fawr eu parodrwydd i gyflawni'r dasg holl-bwysig o feirniadu'r amrywiol gystadleuthau. Llongyfarchwn yr holl blant ar eu cyflawniadau ar y dydd ac yn y cystadleuthau dosbarth a gynhaliwyd cyn diwrnod yr eisteddfod. Cledan oedd yn fuddugol a chyflwynwyd tarian Argoed i'r capteniaid,  Gethin Morgan ac Ashley Butler. Gethin Morgan enillodd gadair Cadwgan am y darn gorau o waith ysgrifenedig ac  Owen Jones enillodd gwpan Dolgoed am ennill y nifer uchaf o bwyntiau unigol. Roedd yn ddiwrnod arbennig i bawb.

Pncampwriaeth Pêl-droed:

Cystadlodd dau dîm o bêl-droedwyr ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Ysgolion Cylch Aeron yn y Caeau Chwarae yn Aberaeron. Cafodd pawb amser da nes i'r glaw orchfygu pawb.

Adran yr Urdd:

Arweinodd Mr. Rhydian Jenkins, Dirprwy Swyddog Urdd Ceredigion sesiwn o curling yn Ysgol Llannon ar Ddydd Mawrth, Mawrth 24ain. Mwynheuodd y plant yn fawr ac edrychwn ymlaen at y sesiwn nesaf o dan ei arweiniad.

 

Newyddion Chwefror

Clwb 100:

Enillwyr mis Chwefror:

1.Miss Nia Davies, Llwyncelyn

2.Miss Carys Evans, Gwalia,

3.Master Steffan Hopkins, Y Bryn

Croeso cynnes

Estynnwn goeso cynnes i Mrs. Elizabeth Cyffin-Roberts i Ysgol Llannon. Apwyntiwyd Mrs. Cyffin-Roberts  fel athrawes dros dro yn ystod cyfnod mamolaeth Mrs. Nerys Gobeithiwn y bydd Mrs. Cyffin-Roberts yn hapus yn ein plith. Llongyfarchiadau i'r teulu Southgate ar enedigaeth merch, Ceinwen Eira.

Arad Goch:

Derbyniasom ymweliad gan Gwmni Theatr Arad Goch ar Ddydd Gwener, Chwefror 6ed i berfformio ‘Dros y Garreg’ i ddisgyblion Adrannau Babanod ysgolion y clwstwr. Mwynhuodd pawb y perfformiad.

Pêl Rwyd:

Cystadlodd tîm cymysg o blant o ysgolion Cilcennin a Llannon yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd Ysgolion Cylch Aeron ar Ddydd Iau, Chwefror 6ed. Llongyfarchiadau iddynt am wneud eu gorau.

Eisteddfod Dihewyd:

Llongyfarchiadau i Megan Harris (Blwyddyn 6) ar ddod yn ail yng nghystadleuaeth llawysgrifen Eisteddfod Dihewyd ac i  Ashley Butler (Blwyddyn 6) ar ddos yn bedwerydd yn yr un gystadleuaeth.

Masnach Deg:

Fel rhan o gynllun Ysgolion Eco, mae Ysgol Llannon yn cefnogi Masnach Deg ac yn gweithio tuag at gyrraedd Statws Ysgolion Masnach Deg. Cefnogodd yr ysgol Bythefnos Masnach Deg rhwng Chwefror 23ain a Mawrth y 6ed. Dysgodd y plant a'r staff am Fasnach Deg, defnyddiom gynnyrch Masnach Deg yn y clwb coginio a gweinwyd bananas Masnach Deg fel rhan o'r pryd cinio Bonansa Bananas.

Dydd Mawrth Ynyd:

Mwynheuodd y plant a'r staff goginio a bwyta pancws blasus.

Adran yr Urdd:

Mae Adran yr Urdd yn cyfarfod bob Dydd Mawrth rhwng 3:30y.p. a 4:30y.p. Yn ddiweddar mae'r plant wedi cymryd rhan mewn cwisiau chwaraeon ac fe fydd sesiwn bingo yn y man.

Noson Gwis:

Cynhaliodd Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau'r Ysgol noson gwis a oedd yn agored i aelodau'r cyhoedd am 7:30y.h. ar nos Sadwrn, Mawrth 7fed am 7:30y.h. yn nhafarn y Swan, Llannon. Aeth yr elw at Apêl Iard Chwarae Ysgol Llannon. Bu'r noson yn llwyddiannus ac mae sôn am gynnal rhagor o nosweithiau tebyg.

Newyddion Ionawr

Disgyblion Newydd

Croeso i ddau ddisgybl newydd i'r Dosbarth Derbyn, sef Harri Kempton Jones a Lara Edwards. Maent wedi ymsefydlu yn y dosbarth yn barod ac yn mwynhau amrywiaeth o brofiadau diddorol yn ddyddiol.

Clwb 100:

Enillwyr mis Ionawr:

1. Mr. Leigh Wells,

2. Miss Nia Davies, Hendre, Llwyncelyn

3. Miss Carys Evans, Gwalia

Clybiau'r tymor

Yn dilyn trafodaeth, penderfynodd ddisgyblion yr Adran Iau ar y ddau glwb canlynol ar gyfer y tymor:

Adran yr Urdd     - bob prynhawn Mawrth

Clwb Coginio         - bob prynhawn Mercher.

Perfformiad  Merched y Gerddi

Cyflwynodd Actorion Cwmni Theatr Mewn Addysg Arad Goch 'Merched y Gerddi'  yn yr ysgol ar Ddydd Gwener, Ionawr 16eg. Perfformiad ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 ydoedd a mwynheuodd plant Ysgolion Llannon, Pennant a Chilcennin, ynghyd â'r staff, y perfformiad yn fawr iawn. Yn dilyn y perfformiad cyflwynwyd gweithdy byr. Yn ôl yr arfer, roedd yn brofiad gwych i'r plant.

Dathlu Penblwydd Neuadd y Pentref yn Ddeugain Oed

Roedd y neuadd dan ei sang ar nos Sadwrn, Ionawr 10fed am gyngerdd Dathlu deugain mlwyddiant Neuadd y Pentref. Trefnwyd cyngerdd yn cynnwys eitemau gan blant yr ysgol, Clybiau Ffermwyr Ifainc Llanddeiniol a Phennant a'r delynores fyd-enwog sy'n hannu o Lannon, sef  Catrin Finch.

Croesawyd pawb i'r gyngerdd gan Mr. Lodwig Lloyd, Adsolwen. Darllenodd Miss Buddug Lloyd gerdd a ysgrifennwyd ar gyfer agoriad y neuadd.

Yna daeth plant yr ysgol i'r llwyfan i berfformio eu heitemau. Dechreuwyd gyda band Dosbarth y Babanod yn perfformio eitem rhythmau. Yna ail ,dangosodd Gethin Morgan a Ieuan Paske eu doniau cerddorol wrth ganu tair tôn ar y clarinet. Daeth disgyblion blynyddoedd 2 i 6 ymlaen i'r llwyfan i wneud cyflwyniad ar arferion traddodiadol Calan. I orffen eu cyfraniad, canodd holl blant yr ysgol gan ar dôn Bing Bong, gyda geiriau a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y dathliad gan Miss Nerys Thomas. Roedd y plant wrth eu boddau yn canu i gyfeiliant Catrin Finch ar y delyn, profiad y byddant yn ei gofio am byth.

Roedd eitem hwylus Cân 'The Muppets' gan Glwb Ffermwyr Ifainc Llanddeiniol yn ddifyr tu hwnt a mwynheuodd y gynulleidfa eu heitemau cerddorol eraill hefyd. Llongyfarchiadau.

Sioe Ffasiynau yn seiliedig ar gyfnod y 60au oedd cyfraniad Clwb Ffermwyr Ifainc Pennant ac roedd yn amlwg fod llawer o'r gwylwyr yn cofio (efallai'n rhy dda!) am wisgo dillad go debyg. Mae'n bosib fod dilletach digon tebyg mewn sawl cwpwrdd dillad yn yr ardal. Llongyfarchiadau iddynt hwy hefyd am eu cyfraniad.

Rhoddwyd croeso arbennig i Catrin nôl i Lannon. Pan ddechreuodd berfformio roedd pob llygad arni. Syfrdanwyd y plant wrth weld eu dwylo'n gwibio ar draws y tannau a chafodd wrandawiad perffaith gan yr holl gynulleidfa. Roedd yn hyfryd ei chlywed yn siarad mor ddi-ymffrostgar a naturiol a hithau mor enwog ac yn fraint ei chlywed yn canu'r delyn mor fendigedig. Gobeithiwn gael ei chwmni eto'n fuan.

Llywydd y noson oedd Mr. Leslie Lewis, Birmingham House, a rhoddodd anerchiad byr. Cyflwynodd Gethin Morgan Flodau i Catrin Finch a chyflwynodd Zoe Hutton flodau i Mrs. Lewis. Roedd yn noson ddifyr a llwyddiannus iawn.