Prosbectws Ysgol Llannon

Tudalen Gartref

Cyflwyniad Staff Arolwg Gweithgareddau
Disgyblion Hanes Eisteddfod Newyddion Digwyddiadau Arbennig
Tudalen Gartref Introduction Staff Inspection Activities
Pupils History Eisteddfod(Eng) News Special Events

 

Oriau Ysgol Dosbarthiadau Derbyniadau Amcanion Gwisg Cwricwlwm
Addysg Arbennig Cyfle Cyfartal Ymweliadau Iechyd a Diogelwch Y Gymuned Cinio Ysgol

 

Croeso i Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon. Crewyd y crynodeb hwn i roi blâs i chi ar y ffordd mae’r ysgol hon, sydd ar arfordir Ceredigion, yn cael ei threfnu a’i rhedeg. Am ragor o wybodaeth am yr ysgol a chopi o Lawlyfr yr Ysgol, cysylltwch â'r  Pennaeth ar mailto:prif@llannon.ceredigion.sch.uk neu ffoniwch 01974 202 478.

Ysgol Gynradd Sirol dull cynllun-agored ar gyfer plant o 4 – 11 oed yw Ysgol Llannon.

Y nôd cyntaf pan fo plentyn yn cychwyn yn yr ysgol hon yw ei fod ef / bod hi yn hapus yma, gan y credwn taw mewn  awyrgylch cartrefol a hapus y mae plentyn yn gweithio orau yn yr ystod oed hwn.

Mae staff yr ysgol wedi eu hyfforddi’n benodol ar gyfer addysgu plant oed cynradd, yn hyddysg ym myd addysg cynradd, yn mynychu cyrsiau hyfforddi priodol yn rheolaidd ac yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys.

Gwna’r ysgol bob ymdrech i sicrhau datblygiad cymdeithasol y plant trwy eu hannog i adeiladu perthynas iach ac hapus â’u cyfoedion ac â’r oedolion sydd yn gysylltiedig â’r ysgol.

Byddwn yn annog pob plentyn i weithio hyd eithaf ei allu/gallu ac yn cefnogi ymdrechion pob plentyn i ddatblygu talentau unigol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod plentyn yn gweithio ar lefel a chyflymdra briodol er mwyn cyrraedd ei lawn/ llawn botensial. Os bydd angen cymorth ychwanegol ar blentyn, trefnir hynny ar ôl ymgynghori a derbyn cefnogaeth y rhieni. Anogir y plant i ymfalchio yn eu llwyddiannau ac i fagu lefel uchel o hunan-barch.

Mae addysg gynradd plentyn yn gyfnod pwysig iawn yn ei ddatblygiad/datblygiad ac fe fyddwn yn gwneud ein gorau glas, fel staff, i sicrhau fod eich plentyn yn hapus, yn gwneud y cynnydd sydd o fewn ei allu/gallu a’i fod/bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau all-gyrsiol yn yr ysgol hon.

Miss Hazel Morgan

PENNAETH

 

1. ORIAU’R YSGOL

Dydd Llun - Dydd Iau

Babanod :                                       Bore  9:00y.b. - 12:00

                                                     Prynhawn  1:00y.p. - 3:25y.p

Iau :                                              Bore  9:00y.b. - 12:00

                                                     Prynhawn  1:00y.p. - 3:30y.p.

Dydd Gwener                               

Babanod a Iau                                Bore  9:00a.m. - 11:40y.b.

                                                     Prynhawn  12:30y.p. - 3:00y.p.

 

2. TREFN Y DOSBARTHIADAU

 Caiff y plant eu dysgu yn ôl eu hoedran mewn dosbarthiadau cymysg eu gallu.

Dosbarth Babanod                                 : Plant 4-7 oed.

Dosbarth Iau                                        : Plant 9-11oed.

Bob Dydd Gwener, daw disgyblion ysgolion y clwstwr i Ysgol Llannon ac maent wedi eu trefnu i ddosbarthiadau fel a nodir isod. Caiff  y plant eu dysgu gan athrawon y clwstwr yn ystod y dydd. Mae'r trefniant hwn yn ei bedwerydd flwyddyn.

Dydd Gwener

Dan Bump                                             : Disgyblion 4-5 oed.

Cyfnod Allweddol 1                               : Disgyblion 5 -7 oed.

Cyfnod Allweddol 2 (Isaf)                     : Disgyblion 7-9 oed.

Cyfnod Allweddol 2 (Uchaf)                   : Disgyblion 9-11.

 

3. DERBYNIADAU I’R YSGOL

Yn unol â pholisiau’r A.A.Ll.derbynnir plant i’r ysgol fel a ganlyn:

Pedair oed erbyn Awst 31ain           -         dechrau’r ysgol ym mis Medi

Pedair oed erbyn Rhagfyr 31ain       -        dechrau’r ysgol ym mis Ionawr

Pedair oed erbyn Mawrth 31ain       -         dechrau’r ysgol ym mis Ebrill

 

4. NODAU AC AMCANION

1. Creu awyrgylch cartrefol a chyfeillgar lle gall y plant deimlo’n hapus ac sy’n hybu dysgu da.

2. Meithrin agwedd cadarnhaol tuag at addysg er mwyn galluogi’r plant i weithio hyd eithaf eu gallu ym mhob testun a gyflwynir.

3. Datblygu meddwl bywiog ac ymchwilgar, y gallu i gwestiynu a dadlau yn synhwyrol a datrys gwahanol fathau o broblemau yn rhesymegol.

4. Ennyn hunan-barch a pharch at bobl ac eiddo, gan ddatblygu agweddau a gwerthoedd cadarn.

5. Creu ymdeimlad o oddefgarwch ym mhob unigolyn tuag at blant a phobl eraill beth bynnag eu cefndir, lliw neu grefydd.

6. Galluogi’r plant i gyfranogi’n llawn mewn cymdeithas lle defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg fel cyfryngau cyfathrebu.

7. Datblygu’r sgiliau sylfaenol i addysg, sef llafaredd, darllen, ysgrifennu a rhifyddeg.

8. Meithrin diddordeb, gwybodaeth a sgiliau mewn Gwyddoniaeth, y Byd o’n Cwmpas a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

9. Sicrhau bod yr etifeddiaeth Gymreig yn cael ei chyflwyno i bob plentyn.

10.Sicrhau bod pob plentyn yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau Addysg Gorfforol ac esthetig er mwyn datblygu sgiliau a thalentau unigol.

11.Creu ymwybyddiaeth yn y plant o’r angen am lendid personol, moesgarwch a chwrteisi.

12.Meithrin cyswllt cadarn rhwng yr ysgol, y rhieni a’r gymdeithas.

 

5. GWISG YSGOL

Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol sy’n cynnwys:

crys-chwys gwyrdd (jade)

crys-polo gwyrdd (jade)

trowsus neu sgert las tywyll

esgidiau cadarn, sodlau isel, synhwyrol.

 

6. CWRICWLWM

Yn unol â gofynion statudol, dysgir y pynciau canlynol :

Craidd      : Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Sylfaenol : Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Hanes, Daearyddiaeth, Celf a Chrefft, Cerddoriaeth ac Ymarfer Corff.

Addysg Grefyddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Mae polisiau’r ysgol yn y pynciau uchod ar gael yn yr ysgol. Gall rhieni drefnu apwyntiad i ddod i’r ysgol i weld unrhyw bolisi.

Addysg Dan Bump Oed

Pan fo plentyn yn dechrau yn yr ysgol yn bedair oed, darperir amrywiaeth eang o weithgareddau trawsgwricwlaidd a fydd yn datblygu ei sgiliau o fewn y meysydd canlynol :

 

Drwy ddarparu gweithgareddau a thasgiau o fewn y meysydd uchod, rhoddir seiliau cadarn i addysg cychwynnol y plentyn yn yr ysgol ar gyfer cam nesaf y daith.

Cyfnod Allweddol 1

Yn y cyfnod hwn adeiladir ar yr addysg blaenorol. Mae’r pwyslais ar ddatblygu’r sgiliau hanfodol, sef Cyfathrebu, Llythrennedd a Rhifedd. Drwy ddarparu cwricwlwm cyfoethog ac eang gan ddefnyddio ymagwedd integredig, anelwn at ddatblygu diddordebau’r plant tra’n cydnabod hefyd lefel eu haeddfedrwydd. Mae’r blynyddoedd hyn yn bwysig, pan fydd plant yn dysgu sut i arsylwi, gwrando, ymateb a datblygu, nid yn unig fel unigolion ond hefyd fel aelodau gofalgar o’n cymuned.

 

Cyfnod Allweddol 2

Yn y cyfnod hwn, bydd sgiliau hanfodol, megis cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn ganolbwynt i’r cwricwlwm. Ond wrth i’w dealltwriaeth o’r disgyblaethau gwahanol wella, caiff mwy o amser ei roi i wyddoniaeth a’r pynciau eraill. Bydd y cwricwlwm yn parhau i gael ei gynnal o fewn thema integredig lle bo hynny’n ystyrlon a pherthnasol.

Caiff y plant eu hannog i ddatblygu hunan-hyder, annibyniaeth wrth ddysgu a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

 

 

Mae cynnwys y cwricwlwm yn eang, yn gytbwys ac yn berthnasol. Mae’r disgyblion yn astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac Addysg Grefyddol a rhoddir lle i Addysg Bersonol a Chymdeithasol o fewn y pynciau hyn ac yn achlysurol fel pwnc ar wahan. Caiff y cwricwlwm ei adolygu’n rheolaidd er mwyn i’r disgyblion gael addysg sy’n berthnasol a chyfredol.

7. ADDYSG ARBENNIG

Mae gan yr ysgol bolisi pendant ar Anghenion Addysgol Arbennig. Os fydd yr athro / athrawes yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol i’r hyn a ddarparir yn y dosbarth bydd yn gwahodd y rhieni i’r ysgol i drafod y mater. Yn yr un modd, gall rhiant holi am apwyntiad i drafod unrhyw bryderon yn y maes hwn.

 

8. CYFLE CYFARTAL

O fewn yr ysgol gwneir pob ymdrech i sicrhau fod plant yn derbyn yr un cyfleoedd a’u cymheiriaid, beth bynnag bo’u gallu, rhyw neu gefndir. Mae Polisi Cyfleoedd Cyfartal yr Ysgol ar gael yn yr ysgol i unrhywun sy’n dymuno ei weld.

 

9. YMWELIADAU YSGOL

Mae plant yn mwynhau ymweld â llefydd ac yn dysgu llawer o brofiadau personol. Mae gan yr Ysgol raglen o ymweliadau addysgol sy’n cefnogi meysydd arbennig o’r cwricwlwm. 

 

10. IECHYD A DIOGELWCH

Pan ddaw’r plant i’r ysgol, mae’r athrawon yn cymryd rôl “loco parentis”. Ymdrechwn i gadw’r safle ac adnoddau’r ysgol mewn cyflwr sy’n ddiogel i bawb ac mae gan y plant reolau pendant i’w dilyn er eu diogelwch eu hunain ac eraill.

 

11. CYSYLLTIADAU A’R GYMUNED

Mae’r ysgol yn awyddus i gadw a datblygu cysylltiadau â’r gymuned. Gwahoddir y gymuned i achlysuron yn yr ysgol a derbynia’r ysgol wahoddiadau i’r plant berfformio pan fo achlysuron yn y pentref. Gwahoddir unigolion i siarad â’r plant yn yr ysgol ac ymwelir â safleoedd yn y pentref. Pan fo Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau’r Ysgol yn trefnu gweithgareddau, dibynant ar gefnogaeth hael busnesau ac unigolion lleol.

 

12. CINIO YSGOL

Paratoir ciniawau maethlon yn ddyddiol yng nghegin yr ysgol. Dosberthir bwydlenni haf a gaeaf cyn gynted ag y derbyniwn  hwy yn yr Ysgol. Mae'r clwb brecwast yn cychwyn am 8:15y.b.